
Mentora
Mentora gyda CGC
Credwn fod mentora yn arfer pwerus ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Mae ein rhaglen wedi'i chynllunio i ddarparu arweiniad, cefnogaeth ac anogaeth i'ch helpu i gyflawni'ch uchelgais.
Mae’r Cynllun yn agored i ddarpar fentorai dros 18 oed sydd naill ai’n gweithio ym maes Cyfraith Gyhoeddus neu’n dymuno gwneud hynny. Disgwylir y bydd gan ddarpar fentoriaid yrfa sefydledig mewn Cyfraith Gyhoeddus eisoes, ond caiff hyn ei ystyried fesul achos. Gall cyfarfodydd rheolaidd helpu i nodi meysydd i'w gwella a darparu cyfleoedd ar gyfer datblygu eich gyrfa.
Tystebau
Myfyriwr Prifysgol, Prifysgol Aberystwyth
“Byddwn i’n bendant yn argymell y cynllun i unrhyw un, hyd yn oed os nad ydych chi’n hollol siŵr os mai gyrfa mewn cyfraith gyhoeddus yw’r un i chi. Mae wedi bod yn hwb hyder mawr cael mentor un-i-un sy’n rhoi cyngor, ond hefyd yn eich annog, ochr yn ochr â’r gefnogaeth mae’r brifysgol hefyd yn cynnig.”
Myfyriwr PhD, Prifysgol Abertawe
"Mae cynllun mentora Cyfraith Gyhoeddus Cymru wedi bod yn gymorth mawr i fi ar fy nhaith i mewn i’r proffesiwn cyfreithiol."
Tystebau gan fyfyrwyr sydd wedi elwa o'n rhaglen
Ers dros i 10 mlynedd bellach, rydw i wedi arbenigo mewn cyfraith yr heddlu, gan gynghori ac ymddangos ar ran pobl sy'n dwyn hawliadau sifil yn erbyn yr heddlu. Rydw i wedi bod yn rhan o'r byd cyfraith gyhoeddus ehangach, ac wedi rhoi tystiolaeth fwy nag unwaith ar ddatganoli i bwyllgor y Senedd. Drafftiais ran o gyflwyniadau Cylchdaith Cymru i gomisiwn Thomas, ac roeddwn i'n un o awduron pamffled a "ysbrydolodd" deitl adroddiad comisiwn Thomas. Ond mae'n debyg mai nid dyma beth mae myfyrwyr yn gweld pan fyddant yn meddwl am gyfraith gyhoeddus.
Ond cyfraith gyhoeddus yw cyfraith yr heddlu. Weithiau, yr achos gweithredu yw un na all ond awdurdod cyhoeddus ei gyflawni – Camymddwyn mewn Swydd Gyhoeddus, hawliadau o dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Yn amlach, mae'r gyfraith yn amrywio yn ôl a yw'r troseddwr (honedig, mae'n debyg y dylwn ddweud) yn swyddog cyhoeddus: meddyliwch am y pwerau sydd gan gwnstabliaid yr heddlu, nad yw'r gweddill ohonom yn eu mwynhau. Ond i lawer o bobl – gan gynnwys rhai cyfreithwyr – mae cyfraith gyhoeddus yn golygu adolygiad barnwrol (sydd ond yn ffurfio rhan fach o'r gyfraith dwi'n ymarfer). Ac yng Nghymru, nid yw plismona wedi'i ddatganoli, felly, yn anffodus, nid yw cyfraith datganoli yn cynnwys llawer.
Am y rhesymau hynny, roeddwn i'n poeni nad oeddwn yn addas i fentora myfyrwyr oedd yn chwilio am fentor Cyfraith Gyhoeddus Cymru. Wedi fy argyhoeddi bod hyd yn oed mentor llai na delfrydol yn well na dim, penderfynais wirfoddoli. Rwy'n falch fy mod i wedi gwneud hynny.
Myfyriwr lleol ges i. Roedden ni'n cwrdd yn rheolaidd, ac roeddwn i, o leiaf, yn dod adref o'n cyfarfodydd wedi fy ysgogi a'm calonogi. Roeddwn i'n gallu helpu gyda phethau fel ceisiadau, bod yn fwrdd sain ar gyfer syniadau, a rhoi rhai awgrymiadau eiriolaeth iddo a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol pan fydd yn dechrau ei dymor prawf. Roeddwn i'n cymryd balchder yn y ffaith iddo gael dymor prawf i ddechrau yn syth ar ôl ei gwrs bar - tystiolaeth bod unrhyw niwed a wnaeth fy mentora yn gyfyngedig.
Ond nid yw'r mentora gorau yn ymwneud â chymorth gyda cheisiadau yn unig, er mor ddefnyddiol y gall hynny fod. Mae'n ymwneud â chwrdd â rhywun sydd â'r un anian – ond nid gormod. Rhywun sydd wedi teithio'r un llwybr, ond sy'n gwybod bod opsiynau eraill y gallai'r 'mentee' eu ffafrio, a all gynnig rhywfaint o arweiniad ar y rheini. Rhywun a fydd yn ffrind wrth i'r 'mentee' symud ymlaen yn ei gyrfa.
Felly, gyd-aelodau o Gyfraith Gyhoeddus Cymru, camwch ymlaen i fentora. A myfyrwyr, gofynnwch am fentor.
David Hughes, Mentor
